Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Chwefror 2014 i’w hateb ar 18 Chwefror 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau ambiwlans ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1507(FM)


2.
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwarchod gwasanaethau cyhoeddus i’r dyfodol er mwyn darparu mwy gyda llai am y dyfodol y gellir ei ragweld?  OAQ(4)1503(FM)

3. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gofal heb ei drefnu?OAQ(4)1505(FM)

4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Rhaglen Recriwtiaid Newydd? OAQ(4)1513(FM)

 

5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg? OAQ(4)1500(FM)

 

6. Lynne Neagle (Torfaen):Pa drafodaethau a gafodd y Prif Weinidog gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng nghyswllt y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol? OAQ(4)1514(FM)

 

7. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiau’r tywydd garw diweddar ar gymunedau yng Nghymru?OAQ(4)1509(FM)

 

8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff Llywodraeth Cymru sefydlu ymchwiliad cyhoeddus llawn i safonau gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a’i ragflaenwyr dros y 25 mlynedd diwethaf?OAQ(4)1502(FM)

 

9. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r diwydiant adeiladu yng Nghymru?OAQ(4)1501(FM)

 

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gofal heb ei drefnu yn y GIG yng Ngorllewin De Cymru?OAQ(4)1510(FM)

 

11. Byron Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei bolisïau i gefnogi busnesau’r stryd fawr? OAQ(4)1516(FM)

 

12. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn eiddo ar Lefelau Gwent sydd mewn perygl o lifogydd?OAQ(4)1512(FM)

 

13. Eluned Parrott (Canol De Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfradd diagnosis pobl â dementia yng Nghymru?OAQ(4)1508(FM)

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gynyddu mewnfuddsoddi yng Nghymru? OAQ(4)1506(FM)

15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio’r stoc tai gwledig?OAQ(4)1511(FM)